Amdanom ni

Ni yw un o’r broceriaid yswiriant mwyaf blaenllaw yng Nghymru

Yma yn Gwasanaethau Yswiriant FUW, rydym yn ymroddedig i gefnogi ein cymuned leol a thu hwnt.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chwmnïau yswiriant masnachol ac amaethyddol arbenigol er mwyn dod o hyd i gynnyrch o ansawdd uchel sy’n gweddu i’ch gofynion unigryw. Mae ein Gweithredwyr Cyfrif wedi’u lleoli ledled Cymru, sy’n golygu ein bod yn gallu rhoi gwasanaeth gwirioneddol lleol i chi lle bynnag y byddwch chi.

Countryside village T-junction
Three generation family enjoying walking along the coast. Its cold outside so they are wrapped up warm.

Cadw’r elfen bersonol

Rydym yn deall pwysigrwydd diogelu ein cymunedau lleol ac yn cydnabod anghenion ein trigolion a busnesau lleol.

Mae’n hollbwysig cymryd agwedd bersonol wrth drin yswiriant ac rydym yn fwy na pharod i drefnu ymweliad â chi neu i gael sgwrs dros baned. Gyda’n gilydd, byddwn yn dod o hyd i’r yswiriant sy’n addas i chi, a phe bai angen i chi wneud hawliad yn erbyn yr yswiriant, fe wnawn ni eich helpu â hynny hefyd.

Cefnogi ffermwyr lleol

Mae Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd yn is-gwmni o eiddo llwyr FUW LTD., a sefydlwyd ym 1955. 

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynrychioli ffermwyr Cymru, yn cynnig cyngor/gwasanaethau arbenigol ac yn bwysicaf oll, yn rhoi llais iddynt. Mae ein helw yn cael ei fuddsoddi’n uniongyrchol i ariannu gweithgareddau Undeb Amaethwyr Cymru sydd, yn eu tro, yn diogelu buddiannau ffermwyr Cymru.

Daybreak over Welsh farm

Cysylltwch a ni

    Rydym yn ceisio ymateb i bob ymholiad cyn pen dau ddiwrnod gwaith. Peidiwch â chyflwyno unrhyw ddata sensitif.

    *Maes gofynnol