Hysbysiad pwysig
Dyma hysbysiad preifatrwydd FUW Insurance Services Ltd (rhif cofrestru: 07981993) y mae ei swyddfa gofrestredig yn Llys Amaeth, Plas Gogerddan, ABERYSTWYTH, SY23 3BT, y cyfeirir ato fel ni, i ni neu ein yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn datgan sut rydym ni yn casglu ac yn prosesu eich data personol. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd yn darparu gwybodaeth benodol sy’n ofynnol yn gyfreithiol ac mae’n rhestru eich hawliau o safbwynt eich data personol.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn ymwneud â gwybodaeth bersonol sy’n eich adnabod fel person naturiol (p’un a ydych yn gwsmer gwirioneddol neu’n ddarpar gwsmer, yn unigolyn sy’n pori ein gwefan neu’n unigolyn y tu allan i’n sefydliad ni yr ydym ni’n rhyngweithio â chi). Cyfeiriwn ni at y wybodaeth hon gydol yr hysbysiad preifatrwydd hwn fel data personol neu wybodaeth bersonol ac mae manylion pellach am beth mae hyn yn ei gynnwys i’w gweld yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn isod.
Mae preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn bwysig iawn inni felly hoffem eich sicrhau y caiff y wybodaeth amdanoch ei thrin a’i diogelu’n briodol gennym ni bob amser. Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn ofalus gan ei fod yn esbonio sut gallem ni gasglu a defnyddio eich data personol.
Gellir amrywio’r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, felly cofiwch ei ddarllen yn rheolaidd. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar Mehefin 30, 2021.
Sut i gysylltu â ni
Rheolydd a manylion cysylltu
At ddibenion y ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol, ni yw rheolydd eich data personol. Fel rheolydd rydyn ni’n defnyddio (neu’n prosesu) y data personol a ddaliwn amdanoch chi yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni ynglŷn â defnyddio neu brosesu eich data personol, yna gallwch wneud hynny gan ddefnyddio ein manylion cysylltu fel y nodir isod.
Swyddog Diogelu Data
Ein Swyddog Diogelu Data yw Guto Bebb. Gallwch gysylltu ag ef yn Llys Amaeth, Plas Gogerddan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BT
Rhif ffôn: 01970 820820.
Pa wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch ac o le y cawn y wybodaeth hon
Gallai’r data personol a gasglwn ni amdanoch chi gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Data personol a roddwch inni yn bersonol, drwy ein gwefan neu dros y ffôn
- Data personol a roddwch pan fyddwch yn holi am yswiriant, neu pan brynwch bolisi, drwom ni, gan gynnwys gwybodaeth am beth a/neu pwy rydych eisiau ei yswirio, megis manylion cerbyd, gweithgareddau busnes, manylion eich cartref neu’ch taith
- Gwybodaeth gyffredinol amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad, manylion cysylltu a dyddiad geni
- Data personol a roddwch os byddwch yn tanysgrifio i unrhyw rai o’n gwasanaethau postio neu’n cylchlythyrau ni
- Eich hanes credyd a’ch hawliadau
- Manylion ariannol, megis manylion eich cyfrif banc a’ch cerdyn
- Euogfarnau troseddol
- Gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio ein gwefan megis eich cyfeiriad IP, sy’n rhif unigryw sy’n adnabod eich cyfrifiadur, gan gynnwys data personol a gesglir drwy ddefnyddio cwcis.
Hefyd, fe allem gael rhyw gymaint o’ch data sy’n syrthio i’r categorïau arbennig o ddata (categorïau arbennig o ddata) a data am euogfarnau troseddol, ac mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn datgan yn benodol sut gallem ni brosesu’r mathau hyn o ddata personol. Categorïau arbennig o ddata yw data sy’n ymwneud ag iechyd.
Rydym ni’n casglu eich data personol gennych fel rheolydd pan gawn ddyfynbrisiau am yswiriant ichi, pan rydyn ni yn trefnu eich polisi ar eich cyfer a phan wnawn newidiadau i’ch polisi ar eich cyfer. Gallai hyn hefyd olygu casglu data gan eraill neu am eraill sy’n gysylltiedig â chi a’ch polisi yswiriant, megis unigolion eraill sy’n cael eu hyswirio ar eich polisïau neu’ch gweithwyr neu’ch cynrychiolwyr. Drwy roi inni wybodaeth am rywun arall ar gyfer trefnu yswiriant iddynt dan eich polisi chi, megis gyrrwr a enwir, cydymaith teithio neu weithiwr ayb. rydych yn cadarnhau eich bod wedi cael eu caniatâd i wneud hynny a’ch bod wedi rhannu’r hysbysiad preifatrwydd hwn gyda nhw.
Drwy ofyn inni drefnu contract yswiriant i chi, sy’n golygu rhoi gwybodaeth inni am blant, rydych yn cadarnhau wrthym ni drwy wneud hynny mai chi yw gwarcheidwad cyfrifol y plentyn.
Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth oddi wrth ffynonellau cyhoeddus a chronfeydd trydydd parti sydd ar gael i’r diwydiant yswiriant er mwyn lleihau achosion o dwyll a throseddau ariannol, a hefyd oddi wrth unrhyw gronfeydd data trydydd parti eraill lle gall eich data personol fod yn cael ei ddal, cyn belled â bod gan y cyfryw drydydd partïon sail gyfreithlon dros rannu’r cyfryw ddata personol gyda ni.
Sut rydym yn defnyddio eich data personol a’r sail gyfreithlon dros wneud hynny
Lle’r ydyn ni yn dibynnu ar sail heblaw am gydsyniad
Gallem ni ddibynnu ar un neu ragor o’r seiliau cyfreithlon canlynol wrth brosesu eich data personol at y dibenion canlynol:
At ba ddiben yr ydym yn prosesu eich data personol | Ar ba sail y cawn wneud hyn (dyma beth mae’r gyfraith yn ei ganiatáu) |
Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau contractiol ichi. Byddai hyn yn golygu ateb eich ceisiadau am wasanaethau yswiriant (gan gynnwys cael yswiriant ichi, ateb eich ceisiadau am addasiadau canol tymor a chael prisiau ar gyfer adnewyddu) | Mae’r prosesu yn angenrheidiol mewn cysylltiad ag unrhyw gontract yr ymrwymwch iddo gyda ni |
Er mwyn gweinyddu eich cyfrif, gan gynnwys trafodion ariannol ar gyfer brocera yswiriant | Mae’r prosesu yn angenrheidiol mewn cysylltiad ag unrhyw gontract yr ymrwymwch iddo gyda ni |
I helpu i atal a lleihau achosion o dwyll a throseddau ariannol eraill | Mae’r prosesu yn angenrheidiol er mwyn inni gydymffurfio â’r gyfraith ac ein gofynion cyfreithiol |
Er mwyn diogelwch ac i wella ein gwasanaeth, gallai galwadau ffôn a wnewch inni gael eu monitro a/neu eu recordio | Mae’r prosesu yn angenrheidiol i fynd ar drywydd ein budd dilys mewn rheoli a gweithredu ein busnes |
Er mwyn rhoi gwybod ichi am wasanaethau a chynhyrchion tebyg y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt | Mae’r prosesu yn angenrheidiol i fynd ar drywydd ein budd dilys mewn gweithredu ein busnes |
Categorïau arbennig o ddata ac euogfarnau troseddol
Mae’n bosibl hefyd y bydd arnom ni angen casglu categorïau arbennig o ddata gennych, fel gwybodaeth am eich iechyd, er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau contractiol i chi. Y sail gyfreithlon y gallwn ni wneud hyn arni yw oherwydd bod y prosesu yn angenrheidiol am resymau budd cyhoeddus sylweddol yn ymwneud ag yswiriant. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am euogfarnau troseddol y gallem ni eu rhannu â thrydydd partïon. Y sail gyfreithlon a ddefnyddiwn er mwyn gwneud hyn yw bod y prosesu yn angenrheidiol am resymau budd cyhoeddus sylweddol yn ymwneud ag yswiriant.
I bwy rydym yn rhoi eich data personol
Mae’n bosibl y bydd arnom ni angen rhoi eich data personol i gwmnïau eraill a allai gynnwys:
- Cwmnïau neu frandiau eraill o fewn ein grŵp o gwmnïau, er enghraifft, os na allwn ni ddarparu polisi yswiriant addas ar eich cais neu adeg adnewyddu fe wnawn holi i weld a all unrhyw rai o gwmnïau ein grŵp cysylltiedig ddarparu yswiriant addas ichi.
- Yr yswirwyr, y cyfryngwyr a’r darparwyr gwasanaethau trydydd parti a ddefnyddiwn ar gyfer trefnu a gweinyddu eich polisi yswiriant. Gallai hyn hefyd gynnwys aseswyr rheoli risg, asiantaethau adfer colledion nas yswirir, darparwyr cyllid ar gyfer premiymau a thrydydd partïon eraill sy’n gysylltiedig (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) â’r broses o weinyddu eich yswiriant a’i fuddion cysylltiedig
- Cwmnïau sy’n darparu gwasanaethau gweinyddu a phrosesu inni neu ar ein rhan dan gontract er mwyn gwneud gweithgareddau megis delio â hawliadau, gwasanaethau gweinyddol a systemau TG a gweithgareddau eraill a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, ynghyd â gweithgareddau cefnogi megis gwasanaethau archwilio a chyllid.
- Sefydliadau sydd â rôl benodol wedi’i datgan yn gyfreithiol, megis cyrff statudol, awdurdodau rheoleiddio a chyrff awdurdodedig eraill
- Sefydliadau eraill y mae gennym ni ddyletswydd i, neu y caniateir inni, ddatgelu eich gwybodaeth bersonol wrthynt yn gyfreithiol, er enghraifft, pe caem ni gais dilys gan yr heddlu neu sefydliadau trydydd parti eraill er mwyn atal neu ganfod trosedd
- Asiantaethau atal twyll a gweithredwyr cofrestri sydd ar gael i’r diwydiant yswiriant i archwilio gwybodaeth ac atal twyll
- Asiantaethau gwirio credyd i archwilio eich hanes credyd. Bydd cofnod o’r archwiliad hwn yn mynd ar eich ffeil gwirio credyd heb effeithio ar eich gallu i wneud cais am gredyd neu gynhyrchion ariannol eraill.
- Trydydd partïon a ddefnyddiwn i adennill arian sydd arnoch chi inni neu y gallem werthu eich dyled iddynt
- Cwmni arall, os yw ein busnes neu ran ohono’n cael ei brynu neu ei feddiannu gan y cwmni hwnnw i sicrhau y gall eich polisi yswiriant barhau i gael ei wasanaethu neu fel rhan o drafodaethau cychwynnol gyda’r cwmni hwnnw ynglŷn â gwerthiant neu feddiannaeth bosibl.
Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth a rannwch gyda ni yn cael ei throsglwyddo gennym ni neu unrhyw rai o’r mathau o gwmnïau neu sefydliadau yr ydym wedi’u nodi uchod, i wledydd eraill er mwyn i’r prosesu ddigwydd, gan gynnwys lleoliadau y tu allan i’r DU a’r Undeb Ewropeaidd. Ni fyddwn ni ond yn gwneud hynny os oes lefelau diogelwch digonol ar waith fel sy’n ofynnol gan ddeddfau diogelu data perthnasol.
Defnyddio ein gwefan a chwcis
Pan ewch i un o’n gwefannau ni fe allwn gasglu gwybodaeth gennych chi, megis eich cyfeiriad e-bost, cyfeiriad IP a dyfeisiau adnabod ar-lein eraill. Mae hyn yn ein helpu ni i dracio ymweliadau unigryw a monitro patrymau traffig cwsmeriaid ar wefannau, fel pwy sy’n ymweld a pham. Rydyn ni yn defnyddio trydydd partïon i gydgasglu cyfeiriadau IP i’n helpu ni i ddeall ein data ar draffig rhyngrwyd a data ynglŷn â’ch math o borwr a’ch cyfrifiadur. Gallem ni hefyd ddefnyddio gwybodaeth am ddefnyddio’r rhyngrwyd i greu data ystadegol ar ddefnyddio ein gwefan. Gallem ni wedyn ddefnyddio neu ddatgelu’r data ystadegol hwnnw i eraill at ddibenion marchnata a datblygu strategol, ond ni fydd modd adnabod unigolion o’r cyfryw ddata ystadegol.
Gallem ddefnyddio cwcis a/neu dagiau picsel ar rai tudalennau o’n gwefan. Ffeil destun fechan a anfonir i’ch cyfrifiadur yw cwci. Tag anweladwy a roddir ar rai tudalennau o’n gwefan, ond nid ar eich cyfrifiadur yw tag picsel. Mae tagiau picsel fel arfer yn gweithio gyda chwcis i’n helpu ni i roi gwell gwasanaeth ichi. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis a thagiau picsel yn ein gohebiaeth e-bost i bersonoli’r e-bost a thracio i weld a yw’r e-bost wedi cael ei agor ac a yw’r derbynnydd wedi defnyddio unrhyw ddolenni at wefannau yn yr e-bost. Mae hyn yn caniatáu inni fonitro a gwella ein gohebiaeth e-bost a’n gwefan. Mae gwybodaeth ddefnyddiol am gwcis, gan gynnwys sut i gael gwared ohonynt, i’w gweld yn http://allaboutcookies.org.
Mae porwyr gwe fel arfer yn derbyn cwcis yn ddiofyn, er ei bod yn bosibl gosod porwr i wrthod cwcis. Fe wnawn ofyn eich caniatâd cyn defnyddio unrhyw gwci nad ydynt yn hanfodol i’r e-bost neu er mwyn ichi ddefnyddio’r wefan. Er hynny, gallai gwrthod derbyn cwcis gyfyngu ar eich defnydd ar ein gwefan a/neu oedi neu effeithio ar y ffordd y mae ein gwefan yn gweithio. Cewch fwy o wybodaeth am gwcis pan ewch i’n gwefan.
Oherwydd natur agored y rhyngrwyd, gallai data lifo dros rwydweithiau heb fesurau diogelwch, a gallai pobl heblaw’r rheini y bwriedir y data ar eu cyfer eu gweld a’u defnyddio. Er bod hyn y tu allan i’n rheolaeth, rydym yn mynd ati o ddifrif i ddiogelu eich gwybodaeth ac ymdrechwn i ddefnyddio lefelau diogelwch priodol bob amser.
Eich Hawliau
Ni fyddwn ond yn storio eich data am gyn hired ag y bo angen i gydymffurfio â gofynion ein contract(au) yswiriant ac unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol neu amodau prosesu cyfreithlon sy’n bodoli o’r herwydd. Mae gennych nifer o hawliau o safbwynt y wybodaeth bersonol a ddefnyddiwn, y gallwch ofyn inni lynu wrthynt. Mewn rhai achosion, hyd yn oed pan wnewch gais ynglŷn â’ch gwybodaeth bersonol, mae’n bosibl na fydd yn ofynnol inni, neu ni fyddwn yn gallu bodloni eich cais oherwydd y gallai hyn olygu na fyddwn yn gallu cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol na rheoleiddiol dan yr amodau prosesu cyfreithlon sy’n rheoli’r ffordd y daliwn ni eich data neu oherwydd y ceir lleiafswm statudol o amser pryd y mae’n rhaid inni gadw eich gwybodaeth. Os felly, fe wnawn roi gwybod ichi beth yw ein rhesymau.
Gallwch ofyn inni:
- Ddarparu copi o’ch gwybodaeth bersonol
- Cywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol ddiangen neu anghywir
- Cyfyngu neu wrthwynebu’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg
- Gwrthwynebu unrhyw benderfyniad awtomataidd, gan gynnwys proffilio y gallai yswirwyr fod wedi’u defnyddio wrth baratoi eich dyfynbris. Os gwnaed penderfyniad awtomataidd, fe wnawn eich hysbysu o hyn ac o’ch hawliau.
- Darparu eich data personol mewn fformat strwythuredig, cyffredin a darllenadwy gan beiriant, a gofyn i’ch data personol gael eu trosglwyddo i reolydd arall. Nid yw’r hawl hon ond yn weithredol os defnyddiwn broses awtomataidd i brosesu eich data personol a bod y prosesu wedi digwydd i ddechrau gyda’ch cydsyniad neu er mwyn cyflawni contract gyda chi.
- Os ydym yn dibynnu ar eich cydsyniad i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, cewch dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg. Os tynnir eich cydsyniad yn ôl, bydd eich cydsyniad blaenorol yn aros yn ddilys ar gyfer y wybodaeth amdanoch chi a ddefnyddiasom cyn y dyddiad y tynnoch y cydsyniad yn ôl, neu os anfonwyd unrhyw ddeunydd marchnata cyn ichi ddweud nad ydych eisiau inni gysylltu â chi eto.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr hysbysiad preifatrwydd hwn neu am eich hawliau diogelu data cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein manylion sydd i’w gweld ar ddechrau’r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Mae gennych hefyd hawl i wneud ymholiad neu gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym yn defnyddio eich data, neu os credwch ein bod wedi torri un o’r gofynion cyfreithiol. I gael rhagor o wybodaeth am yr ICO ewch i: www.ico.org.uk.
Sut ydym yn cysylltu â chi am gynhyrchion a gwasanaethau eraill
Fe allwn o bryd i’w gilydd brosesu eich data personol i roi gwybod ichi am gynhyrchion neu wasanaethau tebyg a allai fod o ddiddordeb ichi. Gwnawn hyn oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi eich cwsmeriaeth ac yn ymfalchïo mewn cynnig cyngor proffesiynol, sydd wedi’i deilwra ac sy’n bodloni eich anghenion yswiriant penodol. Mae hyn yn cynnwys eich hysbysu o’r wybodaeth ddiweddaraf am yswiriant a’r diwydiant ynghyd â manylion unrhyw gynigion neu hyrwyddiadau am y gwasanaethau yswiriant a ddarparwn ni ichi. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol fel hyn yw gan ei bod yn angenrheidiol i fynd ar drywydd buddiannau dilys ein busnes, oni bai ein bod ni fel arall wedi cael eich cydsyniad i wneud hynny. Gallem gysylltu â chi drwy’r post, dros y ffôn neu’r e-bost. Cewch ddewis peidio â chael dim gohebiaeth gennym ni i’r perwyl hwn ar unrhyw adeg fodd bynnag, sylwer na fydd hyn yn effeithio ar y ffordd y cysylltwn â chi am wasanaethu’r cynhyrchion yr ydych wedi gofyn yn benodol amdanynt gennym ni.