Cadw’n ddiogel – cofrestrwch

Cadw’n ddiogel – cofrestrwch

Mae dwyn cerbydau oddi ar y ffordd yn fusnes mawr i droseddwyr, gyda ffigurau’r llywodraeth yn dangos bod tua £100 miliwn o gerbydau amaethyddol ac adeiladu yn cael eu dwyn yn flynyddol yn y DU. * Er ei bod wedi bod yn anodd dod o hyd i’r cerbydau hyn sydd wedi’u dwyn nad ydynt wedi’i cofrestru gyda’r DVLA, bydd cyflwyno cynllun cofrestru cerbydau llywodraeth newydd yn helpu i wella cyfraddau a lleihau’r drosedd hon.

Bellach gellir cofrestru cerbydau oddi ar y ffordd fel beic modur, cerbydau pedair olwyn, peiriannau ac offer adeiladu gyda’r DVLA. Bydd y cynllun, sy’n wirfoddol, yn rhoi rhif cofrestru unigryw i bob cerbyd oddi ar y ffordd gyda rhagddodiad o Q neu QNI. Bydd y rhif cofrestru hwn yn ei gwneud yn haws dychwelyd y cerbyd i’w berchennog os caiff ei adfer ar ôl lladrad.

 

Cofrestru

Mae’n rhad ac am ddim i gofrestru a, chyhyd â bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion oddi ar y ffordd yn unig, ni fydd angen i berchnogion feddu ar dystysgrif prawf cerbyd nac yswiriant. Unwaith y bydd cerbyd oddi ar y ffordd wedi’i gofrestru, ni fydd angen gwneud Hysbysiad Statudol Oddi ar y Ffordd (SORN) bob blwyddyn.

I gofrestru, mae’r DVLA yn gofyn i berchnogion gwblhau cais am ddisg dreth gyntaf a chofrestru cerbyd modur ail-law (V55/5), gan lofnodi’r datganiad na ddylid ei ddefnyddio ar y ffyrdd cyhoeddus.

Mae’n rhaid i’r cais gynnwys dogfennaeth sy’n dangos y Rhif Adnabod Cerbyd, rhif injan a phrawf perchnogaeth ynghyd a llungopi o drwydded gyrru cerdyn llun DU fel prawf o enw a chyfeiriad. Os nad oes trwydded yrru cerdyn llun ar gael, bydd y DVLA yn derbyn llungopïau o ddogfennau gan gynnwys pasbort, tystysgrif geni a bil.

 

Camau pellach

Yn ogystal â chofrestru cerbyd oddi ar y ffordd gyda’r DVLA, mae yna gamau eraill y gellir eu cymryd i leihau’r risg o gerbydau oddi ar y ffordd yn cael eu dwyn. Dylid cadw cerbydau’n ddiogel lle bynnag y bo modd, gan ddefnyddio mesurau diogelwch fel ffensys diogelwch a llifoleuadau os yw’n briodol.

Os yw’n gerbyd adeiladu neu amaethyddol, argymhellir ei gofrestru gyda’r Cynllun Diogelwch a Chofrestru Offer Adeiladu ac Amaethyddol (CESAR) hefyd. Gyda hyn, yn ogystal â’i roi ar gronfa ddata canolog, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig ar gofrestr oddi ar y ffordd DVLA.

Bydd CESAR hefyd yn darparu help ychwanegol gyda marcio diogelwch, gan gynnwys dotiau data datblygedig a data datrys DVLA, ac adnabod peiriannau, gan ddefnyddio sglodion a thagiau wedi’u hymgorffori i alluogi adnabod perchnogaeth ar unwaith. Am fanylion pellach, ffoniwch eich cangen Gwasanaethau Yswiriant FUW lleol neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 0344 800 3110