Annog ffermwyr i gadw golwg ar dymereddau sied trwy gydol y flwyddyn

Annog ffermwyr i gadw golwg ar dymereddau sied trwy gydol y flwyddyn

Mae tymereddau cyfartalog y DU ar gynnydd, gan ysgogi rhybudd i ffermwyr gadw llygad ar dymheredd eu siediau trwy gydol y flwyddyn – gan roi sylw arbennig i siediau llaeth.

Gall tymereddau uchel fod yn heriol i dda byw ac yn ôl DEFRA, gall tymereddau 42°C ac uwch fod yn angheuol i fuchod. Ar ben hynny, gall cynhyrchiant ddirywio ar dymheredd o 25°C i fyny mewn buwch ar gyfartaledd a hyd yn oed yn is mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu mwy, felly mae’n hanfodol bod lefelau gwres yn cael eu monitro’n ofalus.

Yn ystod y gaeaf mae buchod dal yn medru dioddef o straen gwres yn ystod misoedd y gaeaf yn ôl NADIS, oherwydd y lleithder uchel a all ddatblygu o fewn sied oherwydd awyru gwael. Ar ben hynny mewn adeilad sydd â nifer uchel o stoc, gall y tymheredd fod yn 10°C yn gynhesach na thu allan ac felly ar ddyddiau gaeafol heulog cymharol gynnes, mewn adeiladau â lleithder cymharol uchel, gall buchod fod yn agos at neu hyd yn oed yn uwch na’u tymheredd critigol uchaf.

Argymhellir cadw llygad am arwyddion o straen gwres mewn anifeiliaid; gan gynnwys anifeiliaid yn yfed mwy o ddŵr, yn dyheu a glafoerio. Yn ogystal â monitro rheolaidd, gall awyru effeithiol sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n dda wella amodau atmosfferig mewn siediau anifeiliaid, gydag offer awyru hen ffasiwn neu ddiffygiol yn cael ei feio am gynnydd yn y tymheredd.

Os yw problem gyda’ch awyru neu offer arall yn achosi colli cynhyrchiant neu hyd yn oed farwolaethau, gall eich colledion gael eu cynnwys yn eich yswiriant ymyrraeth busnes amaethyddol.