Ar Mai 18fed, 2020, cyflwynodd y Financial Conduct Authority (FCA) fesurau newydd ar gyfer cwmnїau yswiriant a chyllid premiwm i helpu cleientiaid sydd mewn anhawster ariannol. Os ydych yn profi caledi ariannol, neu os bydd amgylchiadau yn newid yn y gwaith neu gartref, efallai y byddwn yn gallu helpu drwy:
Lle nad yw diwygiadau i’ch cynnwys yswiriant yn lliniaru eich gallu i dalu, dylech gysylltu â’ch darparwr cyllid yn uniongyrchol oherwydd gallai fod cefnogaeth bellach ar gael, a allai gynnwys:
Mae’n bwysig nad yw cwsmeriaid yn gadael eu hunain heb yswiriant, felly rydym yn eich annog i gysylltu â ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael os ydych yn cael trafferth fforddio eich taliadau yn ystod yr amser ansicr hwn.
Gweler ein Cwestiynau Cyffredin ar ohirio taliadau
C – Sut mae gwneud cais am ohirio taliad?
A – Dylech gysylltu â’ch yswiriwr neu’ch darparwr cyllid yn uniongyrchol
C – Os rhoddir gohiriad taliad imi, a nodir fy mod mewn ôl-ddyledion ar fy nhaliadau?
A – Na, ac ni chaniateir i’r darparwr nac unrhyw drydydd parti fel brocer neu gasglwr dyledion ganslo’r polisi na chasglu taliad yn ystod y cyfnod gohirio.
C – Am ba hyd y gellir gohirio taliadau?
A – Rhwng un a thri mis ond fe all eich darparwr yswiriant gynnig cyfnod hirach pe dymunent
C – A fydd yn rhaid i mi dalu ffi?
A – Ni fyddai’r Financial Conduct Authority yn disgwyl i gwsmer fod yn atebol i dalu unrhyw dâl neu ffi mewn cysylltiad â rhoi gohiriad taliad.
Rydym yn parhau i drin holl bost (sy’n dod i mewn ac allan) a dogfennau papur, megis sieciau, mor gyflym ac effeithlon â phosibl er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu prosesu mewn da bryd i ddiogelu’r polisi. Cysylltwch â ni ar unwaith os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cyfarwyddiadau neu sieciau yr ydych wedi’u hanfon na fydd efallai wedi’u prosesu, neu ddogfennau rydych yn credu y dylech fod wedi ei derbyn ganddom.