Diweddariadau COVID

Diweddariadau COVID 

Cleientiaid sy’n cael anawsterau ariannol 

Ar Mai 18fed, 2020, cyflwynodd y Financial Conduct Authority (FCA) fesurau newydd ar gyfer cwmnїau yswiriant a chyllid premiwm i helpu cleientiaid sydd mewn anhawster ariannol Os ydych yn profi caledi ariannol, neu os bydd amgylchiadau yn newid yn y gwaith neu gartrefefallai y byddwn yn gallu helpu drwy: 

  • Ail-asesu eich gofynion a’ch anghenion 
  • Adolygu lefelau gwarchodaeth 
  • Ychwanegu neu ddileu gwarchodaeth dewisol megis treuliau cyfreithiol 
  • Ychwanegu neu ddileu pobl ar eich polisi 

Lle nad yw diwygiadau i’ch cynnwys yswiriant yn lliniaru eich gallu i daludylech gysylltu â’ch darparwr cyllid yn uniongyrchol oherwydd gallai fod cefnogaeth bellach ar gaela allai gynnwys: 

  • posibilrwydd o ohirio taliadau (cyfeiriwch at cwestiynau cyffredin) 
  • Taliadau gostyngedig neu ail drefnu’r cyfnod taliadau 
  • Hepgor ffioedd talu’n hwyr neu daliadau a gollwyd 
  • Newid eich dyddiad ad-dalu heb gost i chi  
  • Lleihau taliadau llog 

Mae’n bwysig nad yw cwsmeriaid yn gadael eu hunain heb yswiriant, felly rydym yn eich annog i gysylltu â ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael os ydych yn cael trafferth fforddio eich taliadau yn ystod yr amser ansicr hwn. 

Gweler ein Cwestiynau Cyffredin ar ohirio taliadau 

C – Sut mae gwneud cais am ohirio taliad?
A – Dylech gysylltu â’ch yswiriwr neu’ch darparwr cyllid yn uniongyrchol 

C – Os rhoddir gohiriad taliad imi, a nodir fy mod mewn ôl-ddyledion ar fy nhaliadau?
A – Na, ac ni chaniateir i’r darparwr nac unrhyw drydydd parti fel brocer neu gasglwr dyledion   ganslo’r polisi na chasglu taliad yn ystod y cyfnod gohirio. 

C – Am ba hyd y gellir gohirio taliadau?
A – Rhwng un a thri mis ond fe all eich darparwr yswiriant gynnig cyfnod hirach pe dymunent 

C – fydd yn rhaid i mi dalu ffi?
A – Ni fyddai’r Financial Conduct Authority yn disgwyl i gwsmer fod yn atebol i dalu unrhyw dâl neu ffi mewn cysylltiad â rhoi gohiriad taliad.

 

Post a dogfennau papur 

Rydym yn parhau i drin holl bost (sy’n dod i mewn ac allan) a dogfennau papurmegis sieciau, mor gyflym ac effeithlon â phosibl er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu prosesu mewn da bryd i ddiogelu’r polisi Cysylltwch â ni ar unwaith os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cyfarwyddiadau neu sieciau yr ydych wedi’u hanfon na fydd efallai wedi’u prosesu, neu ddogfennau rydych yn credu dylech fod wedi ei derbyn ganddom.